Canser
Mae pobol dal yn fwy tebygol o gael canser, gan gynnwys canser y perfedd, y fron, yr aren a’r ymennydd, yn ôl arbenigwyr.

Yn ôl yr arolwg mwyaf o’i fath yn y maes roedd pob pedair modfedd ychwanegol yn cynyddu’r risg o gael canser o 16%.

Cafodd miliwn o ferched eu holi yn rhan o’r arolwg. Mae arolygon tebyg sy’n holi dynion wedi dod i’r un casgliad.

  • Ymysg y merched byrraf – tua pum troedfedd o daldra – dim ond 750 o 100,000 oedd yn cael canser bob blwyddyn.
  • Ymysg merched o daldra canolig – tua pum troedfedd pedair modfedd – roedd tua 850 o 100,000 yn cael canser bob blwyddyn.
  • Ond ymysg y merched talaf – tua pum troedfedd naw modfedd – roedd tua 1,000 o’r 100,000 yn cael canser bob blwyddyn.

“Mae’r ffaith fod cysylltiad amlwg rhwng taldra a chanser, sy’n gyffredin mewn sawl math o ganser, yn awgrymu ei fod yn tarddu o gyfnod cynnar ym mywydau pobol, efallai pan maen nhw’n tyfu,” meddai Jane Green o Brifysgol Rhydychen, prif awdur yr ymchwil.

“Mae’n amhosib i bobol newid eu taldra, wrth gwrs. Ac mae gan bobol dal fanteision iechyd eraill, gan gynnwys llai o afiechyd y galon.”

Mae’n awgrymu fod cysylltiad rhwng y cynnydd o 10 i 15% mewn canser yn ystod yr 20fed ganrif a’r ffaith bod oedolion ar gyfartaledd tua 1cm yn dalach.

Un ddamcaniaeth yw bod gan bobol dal fwy o gelloedd yn eu cyrff, ac felly bod datblygu canser yn un o’r celloedd hynny’n fwy tebygol.