Jeremy Hunt
Mae David Cameron yn wynebu pwysau newydd dros honiadau ei fod wedi cynnal cyfarfodydd â News International ynglŷn â’u u cais i gymryd rheolaeth lawn dros BSkyB.

Ddoe penderfynodd y Prif Weinidog beidio ateb sawl cwestiwn yn Nhŷ’r Cyffredin gan ASau oedd am wybod a gafodd y cytundeb ei drafod â phrif weithredwyr cwmni Rupert Murdoch.

Yn ddiweddarach, awgrymodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, fod trafodaethau o’r fath wedi digwydd, ond mynnodd ei gynorthwywyr nad oedd wedi “cyfeirio at unrhyw un yn benodol”.

“Mae trafodaethau’r Prif Weinidog ar fater BSkyB yn amherthnasol,” meddai wrth ASau.

“Roedden nhw’n amherthnasol am mai’r person oedd â’r cyfrifoldeb… y person oedd yn gwneud y penderfyniad oedd fi.”

Dywedodd y Blaid Lafur mai dyna’r tro cyntaf i unrhyw aelod o’r Llywodraeth gyfaddef fod David Cameron wedi trafod BSkyB o gwbl.

Roedd gan y Prif Weinidog “lawer iawn o gwestiynau i’w hateb” yn dilyn sylwadau Jeremy Hunt, meddai ysgrifennydd diwylliant yr wrthblaid, Ivan Lewis.

“Yr holl bwynt am y broses o gynnig [am BSkyB] yw ei fod yn gwbl annibynnol a tryloyw,” meddai.

“Mae i fod yn nwylo Jeremy Hunt ac yn rhydd o unrhyw ddylanwad o gwbl gan David Cameron.”

Hacio ffonau

Mynnodd swyddfa’r Prif Weinidog nad oedd David Cameron wedi cynnal unrhyw drafodaethau “amhriodol” am gynnig News International.

Roedd wedi sicrhau nad oedd yn rhan o unrhyw drafodaeth ar ddod i gytundeb, mynnodd y llefarydd.

Atebodd David Cameron dros 100 o gwestiynau am hacio ffonau symudol yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe.

Dywedodd wrth ASau ei fod yn “flin iawn” ganddo am y ffwdan a achoswyd gan benodi Andy Coulson yn bennaeth cyfathrebu Stryd Downing.

Ychwanegodd na fyddai byth wedi rhoi’r swydd i gyn-olygydd papur newydd y News of the World pe bai’n gwybod beth mae yn ei wybod nawr.

Ychwanegodd y dylai Andy Coulson wynebu cyhuddiadau troseddol “llym” os oedd wedi dweud celwydd wrth honni nad oedd yn gwybod dim byd am hacio ffonau symudol.