Offer drip
Mae gwraig 26 oed wedi cael ei harestio ynglŷn â thair llofruddiaeth bosib mewn ysbyty yn ardal Macneinion.

Fe gyhoeddodd yr heddlu eu bod yn holi’r wraig ar ôl i dri o bobol farw yn Ysbyty Stepping Hill yn Stockport. Ac maen nhw wedi cadarnhau bellach ei bod hi’n nyrs yno.

Mae achos dyn arall sy’n ddifrifol wael hefyd yn rhan o’r ymholiadau mewn dwy ward yn yr ysbyty.

Y gred yw bod inswlin wedi cael ei roi mewn drip halen ac mae hynny wedi effeithio ar fwy na 30 o bobol.

Roedd un wraig 44 oed a dau ddyn 84 a 71 wedi marw.

Fe gadarnhaodd yr heddlu bod gwraig wedi ei harestio yn ei chartref y bore yma a’i bod hi yn y ddalfa ar hyn o bryd yn cael ei holi.