Roedd Heddlu Llundain yn gyfrifol am “gyfres o fethiannau” wrth ymchwilio i sgandal hacio ffonau y News of the World.

Dyna gasgliad adroddiad gan un o’r pwyllgorau dethol yn San Steffan sy’n ymchwilio i’r helynt ac i  waith yr heddlu.

Yn ôl y Pwyllgor Materion Cartref, roedd cwmni papurau News International wedi “ymdrechu’n fwriadol” i rwystro ymchwiliadau’r heddlu.

Ond doedd Heddlu Llundain chwaith ddim wedi dangos unrhyw “ewyllys o ddifri” i oresgyn y rhwystrau.

Beirniadu dau swyddog

Roedd yna feirniadaeth benodol ar ddau o’r uwch swyddogion sydd wedi bod yn rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor.

  • Roedd perfformiad y cyn Gomisiynydd John Yates, a ymddiswyddodd ynghynt yr wythnos hon, wedi bod yn “wael iawn” yn 2009 pan edrychodd am y tro cyntaf ar dystiolaeth yn erbyn papur y News of the World.
  • Roedd ymddygiad y plismon a gynhalioedd yr ymchwiliad cyntaf, Andy Hayman, wedi bod yn “amhroffesiynol ac amhriodol” ac fe gafodd ei gyhuddo o “gamarwain” y Pwyllgor.
  • Roedd y Pwyllgor yn arbennig o anhapus ei fod wedi cael swydd gan News International o fewn dwy flynedd i fod yn ymchwilio i’w busnes.

Y berthynas rhwng y cwmni a Heddlu Llundain yw un o’r pryderon mawr sydd wedi codi yn ystod y sgandal – yn ôl y Pwyllgor, hyd yn oed os oedd y perthnasau hynny’n rhai dilys, roedden nhw’n tanseilio delwedd ddiduedd yr heddlu.

Galw am ragor o arian

Fe alwodd y Pwyllgor hefyd ar i’r Llywodraeth roi rhagor o arian i Heddlu Llundain er mwyn cynnal ymchwiliad newydd.

Roedd hynny’n angenrheidiol, medden nhw, er mwyn cyflymu’r broses o roi gwybod i’r bobol sydd wedi dioddef oherwydd yr hacio.

Mae’n bosib, medden nhw, bod cymaint â 12,800 o bobol wedi eu heffeithio ond dim ond 170 sydd wedi cael gwybod yn swyddogol hyd yn hyn.