Mae’r SNP wedi dymuno’n dda i un o’u cyn-ymgeiswyr ar ôl iddo ddod i’r amlwg ei fod wedi ennill £161m yn loteri’r Euromillions nos Fawrth diwethaf.

Safodd Colin Weir ar ran yr SNP yn Swydd Ayr yn 1987, ond heb fawr o lwc. Daeth yn bedwerydd bryd hynny, y tu ôl i’r Toriaid, Llafur a Chynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr.

Ond newidiodd ei lwc ddydd Mawrth a bydd y blaid wleidyddol y mae dal yn aelod ohoni yn gobeithio am gyfraniad hael.

“Rydyn ni’n dymuno’r lwc gorau i Mr a Mrs Weir gyda’u cyfoeth newydd,” meddai llefarydd ar ran y blaid.

Mae llythyrau a cheisiadau yn gofyn am arian eisoes wedi dechrau cyrraedd eu cartref yn Largs, Ayrshire.

Mae’n debyg bod yr enillwyr wedi gorfod ffoi o’u cartref £180,000 yn Largs am y tro, er mwyn osgoi’r galw am gyfraniadau.

Y gred yw bod y cwpwl, Colin, 64, a’i wraig Chris, 55, wedi dianc i Sbaen am y tro gyda’u plant Jamie, 22, a Carly, 24, nes bod y cynnwrf yn gostegu.