Neil Kinnock
Mae’r Arglwydd Kinnock wedi galw am ddod a’r wasg rydd i ben, gan ddweud y dylai papurau newydd gael eu rheoli yn yr un modd a darlledwyr newyddion.

Mae darlledwyr yn cael eu rheoli gan gyfreithiau er mwyn sicrhau eu bod nhw’n ddiduedd, ac fe ddylai’r un peth fod yn wir am bapurau newydd, meddai.

Roedd yn siarad â rhaglen Today Radio 4 gan drafod sgandal hacio ffonau symudol papur newydd y News of the World.

Dywedodd cyn-arweinydd y Blaid Lafur, oedd yn aelod seneddol Islwyn, bod y sgandal yn “cosi cwestiynau ynglŷn ag annibyniaeth a rhyddid y wasg”.

“Mae yna systemau a fyddai yn sicrhau nad ydi sawl papur newydd yn mynd i ddwylo un cwmni a gwell amrywiaeth barn, ac fe fyddai hynny yn gwneud lles i’n democratiaeth,” meddai.

Ychwanegodd nad oedd yn gweld “unrhyw reswm o gwbl” pam na ddylai rheolau sy’n gorfodi darlledwyr i fod yn ddiduedd gael eu hymestyn i bapurau newydd.

Roedd yn gobeithio na fyddai gwleidyddion yn gorfod “gwenieithio” perchnogion papurau newydd fyth eto yn sgil y sgandal hacio ffonau.

Roedd dylanwad cwmnïau gan gynnwys News International wedi “halogi” diwylliant gwleidyddol y wlad, meddai.

Awgrymodd fod Rupert Murdoch ac eraill bellach yn talu’r pris am eu traha.

Dioddefodd gyrfa wleidyddol Neil Kinnock yn sgil diffyg cefnogaeth gan bapurau newydd Rupert Murdoch.

Roedd papur newydd The Sun wedi arwain â’r pennawd enwog ‘If Kinnock Wins Today Will the Last Person to Leave Britain Please Turn Off the Lights’ ar ddiwrnod etholiad 1992.

Mynnodd Neil Kinnock nad oedd yn dal dig am hynny ac nad oedd yn credu fod y papur newydd wedi newid canlyniad yr etholiad.