Logo Lulzsec
Mae grŵp o hacwyr wedi targedu gwefan y Sun gan ailgyfeirio darllenwyr ar stori sy’n honni fod Rupert Murdoch wedi marw.
Honnodd LulzSec, sydd yn y gorffennol wedi targedu cwmnïoedd gan gynnwys Sony, maen nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad mewn neges ar wefan Twitter.
Roedd unrhyw ymwelwyr i wefan The Sun neithiwr yn cael eu hailgyfeirio i stori ffug am hunanladdiad pennaeth News International.
Cyhoeddwyd y stori ar wefan new-times.co.uk oedd yn honni fod Rupert Murdoch wedi marw “ar ôl amlyncu llawer iawn o baladiwm”.
Yn ddiweddarach ailgyfeiriwyd darllenwyr The Sun i ffrwd Twitter LulzSec oedd yn honni eu bod nhw wedi cael gafael ar “ddata mewnol gweithwyr” y papur newydd.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran News International eu bod nhw’n ymwybodol o’r ymosodiad ar eu gwefan ond nad oedden nhw am gynnig sylw pellach.
Honnodd grŵp arall o hacwyr, Anonymous, eu bod nhw’n gyfrifol am ymosodiad ar wefan papur newydd The Times.
Mae LulzSec eisoes wedi hawlio cyfrifoldeb am ymosodiadau cyfrifiadurol ar gyrff gan gynnwys yr FBI, y CIA, Senedd yr Unol Daleithiau, a gwefannau pornograffi.