Prawf am ganser (o wefan Ymchwil Canser)
Fe fu cynnydd mawr mewn canser ymhlith pobol ganol oed, yn ôl un o’r prif elusennau yn y maes.

Yn ystod y 30 mlynedd diwetha’, mae nifer y bobol rhwng 40 a 59 oed sy’n cael canser bob blwyddyn wedi codi o fwy na thraean.

  • Yn 1979, roedd 44,000 wedi cael diagnosis o ganser.
  • Yn 2008, roedd y ffigwr wedi codi i 61,000.

O ystyried bod y boblogaeth wedi cynyddu yn y cyfnod hwnnw, mae’r raddfa hefyd wedi codi, o tuag 20%.

Cynnydd mwy ymhlith merched

Mae’r cynnydd wedi bod tua thair gwaith yn uwch ymhlith merched na dynion, yn ôl elusen Ymchwil Canser. A chanser y fron a’r prostad yw’r ddau fath o’r clefyd sydd wedi cynyddu fwya’.

Roedd hynny’n rhannol oherwydd gwell systemau profi, meddai’r elusen, sydd hefyd yn dweud bod gobeithion pobol o oroesi hefyd wedi codi.

Oherwydd cyffuriau a dulliau eraill i drin y clefyd, mae gan 50% o ddioddefwyr bellach obaith o fyw am o leia’ ddeng mlynedd.