Heddlu Llundain
Mae Llafur yn ceisio cynyddu’r pwysau ar  Brif Weinidog Prydain ar ôl i bennaeth Heddlu Llundain ymddiswyddo tros sgandal papurau Rupert Murdoch.

Neithiwr, fe gyhoeddodd Syr Paul Stephenson ei fod yn rhoi’r gorau iddi ar ôl i gwestiynau gael eu codi am ei berthynas gydag un o gyn weithwyr y News of the World.

Yn ôl Llafur, roedd ei ymddygiad yn wahanol iawn i ymddygiad David Cameron a oedd wedi cyflogi golygydd y papur ar y pryd.

Datganiad

Fe dynnodd Syr Paul Stephenson sylw at y Prif Weinidog hefyd wrth gyhoeddi datganiad ymddiswyddo.

Roedd wedi mynd, meddai, oherwydd fod y stori’n tynnu sylw ac yn ei gwneud yn anodd i’r heddlu barhau gyda’u gwaith.

Ond fe bwysleisiodd y byddai unrhyw ymchwiliad yn cadarnhau bod ei gydwybod yn glir a’i ymddygiad yn gywir.

Y cefndir

Roedd cwestiynau wedi codi tros berthynas Syr Paul Stephenson gyda Neil Wallis, dirprwy olygydd y News of the World yng nghyfnod yr hacio i mewn i ffonau symudol.

Roedd wedi penodi Neil Wallis yn ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus i Heddlu Llundain yn 2009 ac roedd ef a’i wraig wedi derbyn gwyliau mewn sba iechyd gan gwmni’r newyddiadurwr, Chamy Media.

Mae Neil Wallis yn un o’r deg o bobol sydd wedi cael eu harestio tros eu rhan yn y sgandal hacio – fe gafodd ei holi yn ystod y dyddiau diwetha’.

Cameron hefyd?

Wrth ymddiswyddo, fe ddywedodd Syr Paul ei fod wedi penodi Neil Wallis heb wybod am y cysylltiad gyda’r hacio.

Ac fe dynnodd sylw at y gwahaniaeth rhwng hynny ac ymddygiad David Cameron, a oedd wedi cyflogi Andy Coulson, cyn olygydd y News of the World, ar ôl iddo gael ei holi gan yr heddlu yn yr ymchwiliad cynta’ i’r helynt.

Yn ôl Syr Paul, doedd Neil Wallis ddim wedi cael ei gysylltu gyda’r ymchwiliad, yn wahanol i Andy Coulson.

Dyna hefyd oedd pwynt Yvette Cooper, y llefarydd Llafur ar faterion cartref: “Fe fydd pobol yn dyfalu pam fod rheolau gwahanol ar gyfer y Prif Weinidog a’r Heddlu, yn enwedig gan nad oedd Neil Wallis, yn wahanol i Andy Coulson, wedi gorfod ymddiswyddo o’r News of the World.”