Un o awyrennau Aer Aerann
Fe lwyddodd teithwyr oedd yn hedfan rhwng gwledydd Prydain ac Iwerddon i ddianc yn ddianaf heddiw, er bod olwyn flaen eu hawyren wedi methu.

Mae Aer Arann, a oedd yn rhedeg y gwasanaeth rhwng Manceinion a Shannon ar ran Aer Lingus, wedi cadarnhau fod yr awyren wedi gwyro oddi ar y rynwe ar y glaswellt. Roedd 21 o deithwyr a phedwar aelod yn y criw ar fwrdd yr awyren.

“Fe ddaeth yr holl deithwyr a’r gweithwyr oddi ar yr awyren yn ddiogel, a chafodd neb eu hanafu,” meddai llefarydd ar ran y cwmni awyrennau.

Roedd yr awyren wedi gadael maes awyr Manceinion am ddeng munud i naw y bore, ac roedd disgwyl iddi gyrraedd maes awyr Shannon erbyn chwarter wedi deg.

Yn ôl Aer Arann, roedd yr awyren yn trio glanio am yr ail waith, tua hanner awr wedi deg, pan ddaeth hi’n amlwg fod yna rywbeth o’i le ar yr olwyn flaen a’r offer glanio. Cafodd y gwasanaethau brys eu galw’n syth.