Gorymdaith Oren ym Mhortadown (Dean Molyneaux CCA 2.0)
Fe daniodd yr heddlu fwledi plastig i atal terfysg mewn tref yng Ngogledd Iwerddon.
Roedd tua 100 o bobol ifanc wedi bod yn taflu cerrig, tân gwyllt a bomiau petrol at y plismyn yn Portadonw yn Swydd Armagh.
Roedd AC lleol Sinn Fein, John O’Dowd, yn rhoi’r bai ar Unoliaethwyr am yr helynt gan ddweud y dylai eu harweinwyr ymyrryd.
Mae Portadown wedi bod yn ganolbwynt i wrthdaro tros orymdeithiau’r Urdd Oren sy’n digwydd bob mis Gorffennaf.
Roedd yr helynt neithiwr wedi digwydd mewn ardal o’r enw Ffordd Corcrain lle mae’r ddwy gymuned – yr Unoliaethwyr a’r Gweriniaethwyr – yn cwrdd.