Mae mab y gitarydd David Gilmour wedi’i garcharu am 16 mis heddiw am ei ddrwgeithredoedd mewn protest ffioedd myfyrwyr tar dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.

Mae Charlie Gilmour wedi cyfaddef iddo ymddwyn yn anhrefnus a threisgar ar ôl ymuno gyda miloedd o brotestwyr yn Sgwâr Trafalgar a Sgwâr y Senedd, flwyddyn ddiwethaf.

Yn ystod diwrnod o reiat, fe gafodd mab gitarydd Pink Floyd ei weld yn hongian fflag yr undeb  ar gofadail a neidio ar fŵt car Jaguar oedd yn rhan o gonfoi brenhinol.

Hefyd roedd wedi taflu bin sbwriel ar gerbyd oedd yn pasio.

Fe glywodd y Llys fod y myfyriwr Caergrawnt wedi troi at alcohol a chyffuriau ar ôl cael ei wrthod gan ei dad biolegol, yr awdur Heathcote Williams, ac wedi cymryd LSD a faliwm yn yr oriau’n arwain at y trais.