Mae gŵr a gwraig o’r Alban wedi curo £161 miliwn – sef tua dwbwl cyllideb flynyddol S4C – wrth gystadlu yn y loteri Ewropeaidd.

Dyma’r swm mwya’ o arian i unrhyw un ei ennill yn hanes yr EuroMillions.

Daw Colin a Chris Weir o Largs yn Ayrshire, a’u rhifau buddugol oedd 17, 19, 38, 42 a 45, a’r Sêr Lwcus oedd 9 a 10.

Mi enillon nhw’r jacpot cyfan, sef £161,653,000.

Fe gawson nhw eu cyflwyno I’r byd a’r betws fel yr enillwyr lwcus heddiw yng Ngwesty a Spa’r Inchyra Hotel yn Polmont ger Falkirk.

Cefndir

Mae Colin a Chris Weir yn briod ers 30 o flynyddoedd ac wedi magu dau o blant.

“Pan sylweddolon ni ein bod wedi ennill, roedd yn teimlo fel breuddwyd,” meddai Colin Weir, dyn 64 oed sydd wedi gweithio fel dyn camera teledu a rhwolwr stiwdeo am 23 o flynyddoedd.

“Ond maen teimlo fel rhywbeth da; rhywbeth na ddylen ni ofni ond rhywbeth I’w fwynhau gyda’r plant.”