Rupert Murdoch a Rebekah Brooks
Mae Rupert Murdoch a’i fab James wedi cytuno i roi tystiolaeth am hacio ffonau symudol o flaen pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos nesaf.

“Rydyn ni yn y broses o ysgrifennu at y pwyllgor dethol er mwyn rhoi gwybod y bydd James Murdoch a Rupert Murdoch yn bresennol yn y cyfarfod ddydd Mawrth nesaf,” meddai llefarydd ar ran News Corporation.

Yn gynharach roedd Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Tŷ’r Cyffredin wedi dweud eu bod nhw’n cyhoeddi gwŷs i’r ddau ddyn.

Roedd y ddau wedi dweud yn gynharach nad oedden nhw ar gael ar y diwrnod hwnnw.

Cadarnhaodd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Syr George Young, y gallai’r ddau wynebu dirwy neu gael eu carcharu os oedden nhw’n anwybyddu’r gŵys.

Croesawodd cadeirydd y pwyllgor, John Whittingdale, y cyhoeddiad eu bod nhw’n bwriadu rhoi tystiolaeth – ar y diwrnod olaf cyn dechrau gwyliau haf Tŷ’r Cyffredin.

“Dyna fydd y tro cyntaf y mae Rupert Murdoch, James Murdoch, ac yn wir Rebekah Brooks (oedd eisoes wedi cadarnhau y byddai hi yn bresennol) wedi ateb cwestiynau am hyn,” meddai.

“Fe fyddwn nhw’n ymddangos o flaen pwyllgor seneddol felly rydw i yn gobeithio y byddwn nhw’n ei gymryd o ddifri ac yn cynnig atebion i’r cwestiynau y mae llawer iawn o bobol eisiau eu gofyn.”