Mae cefnder gŵr a gafodd ei saethu ar y tiwb gan heddlu Llundain wedi cael gwybod heddiw fod ei rif ffôn ar restr yr rheini sydd o bosib wedi eu hacio gan newyddiadurwyr y News of the World.

Mae aelodau teulu Jean Charles de Menezes, a gafodd ei saethu ar amheuaeth o fod yn derfysgwr yng ngorsaf tiwb Stockwell yn 2005, bellach yn poeni y gallen nhw hefyd fod wedi eu tagedu gan ymchwilwyr cudd y papur.

Mae perthnasau, ymgyrchwyr ac aelodau o dîm cyfreithiol y teulu i gyd wedi rhoi eu rhifau ffôn i’r heddlu nawr iddyn nhw gael gweld os yw eu rhifau nhw ar y rhestr.

Cafodd Jean Charles de Menezes ei saethu’n farw gan swyddogion gwrth-derfysgaeth oedd ar ôl yr hunan fomiwr Hussain Osman – diwrnod wedi’r ymosodiadau ar Llundain ar 21 Gorffennaf 2005.

Yn ôl teulu Jean Charles de Menezes, daeth swyddogion Scotland Yard o hyd i rif ffôn ei gefnder Alex Pereira ar restr o eiddo’r ymchwilydd cudd Glenn Mulcaire.

Dywedodd llefarydd ar ran grŵp ymgyrchu Justice4Jean fod teulu Jean Charles de Menezes “wedi eu brifo’n fawr i glywed y gallai eu ffonau fod wedi eu hacio ar adeg pan oedden nhw ar eu gwannaf ac yn galaru”.

“Maen nhw’n rhyfeddu na fyddai’r heddlu wedi dweud wrthyn nhw am yr wybodaeth cyn hyn, ac maen nhw’n poeni fod yr heddlu yn ceisio claddu eu camgymeriadau eu hunain yn yr achos hon unwaith eto.”

Mae tuelu Jean Charles de Menezes wedi galw ar David Cameron i ymestyn yr ymchwiliad i hacio ffonau symudol, er mwyn cynnwys achosion honedig lle roedd yr heddlu wedi gollwng gwybodaeth i’r wasg yn ystod yr ymchwiliad i farwolaeth y gŵr o Frasil.