Mae Llywodraeth San Steffan wedi newid eu meddyliau ar gau rhai o orsafoedd gwylwyr y glannau – ond bydd un o orsafoedd Cymru yn cau wedi’r cwbl.

Cyhoeddodd y Gweinidog Treftadaeth Philip Hammond heddiw y bydd yna 11 gorsaf ar arfordir Prydain fydd yn ymateb i argyfyngau ar y môr.

Fe fydd yna un canolfan gweithredu yn ardal Portsmouth, yn ogystal ag wyth is-orsaf 24 awr – yng Nghaergybi, Aberdaugleddau, Falmouth, Belfast, Stornoway, Shetland, Aberdeen a Humber.

Ond fe fydd gorsafoedd Abertawe, Clyde, Forth, Lerpwl, Yarmouth, Brixham, a’r Tafwys yn cau.

Torri swyddi

Y cynllun gwreiddiol oedd cau gorsafoedd Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi ac Aberdaugleddau yn gyfan gwbl a chau gorsaf Abertawe yn ystod y nos.

Fe fydd yna golli swyddi er gwaetha’r ailfeddwl, meddai Philip Hammond – bydd nifer y gwylwyr y glannau yn syrthio o 573 i 436 erbyn 2015.

Dywedodd ysgrifennydd trafnidiaeth yr wrthblaid, Maria Eagle, fod gweinidogion wedi rhoi torri costau o flaen diogelwch cymunedau arfordirol.

Ychwanegodd fod penderfyniad y Llywodraeth i gefnu ar y cynllun gwreiddiol yn fuddugoliaeth o fath i wylwyr y glannau oedd wedi ymgyrchu yn erbyn y newidiadau.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn golygu y bydd bron i hanner canolfannau gwylwyr y glannau Prydain yn cau,” meddai.

“Mae’n ergyd drom i’r gorsafoedd yr ydych chi’n bwriadu eu cau – i wylwyr y glannau, eu teuluoedd a’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.”