Mae’r heddlu yn ymchwilio wedi i ffrwydrad dinistriol ladd pum person ar ystâd ddiwydiannol.
Aethpwyd a chweched dyn i’r ysbyty yn dioddef o losgiadau difrifol yn dilyn y ffrwydrad ar ystâd ddiwydiannol Broadfield Lane yn Boston, Swydd Lincoln, brynhawn ddoe.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r uned 30 wrth 15 troedfedd yn fuan cyn 7.30pm ar ôl sawl galwad 999 gan y cyhoedd.
Dywedodd Steve Moore, rheolwr Gwasanaeth Hyd at ac Achub Swydd Lincoln, bod cyfanswm o chwe injan dân wedi ei anfon i’r fan.
“Pan gyrhaeddodd y criwiau cyntaf daeth i’r amlwg fod tân difrifol iawn ac roedd glaf y tu allan yn dioddef o losgiadau,” meddai.
“Yr ymateb cyntaf oedd trin y claf. Yna dechreuodd yr ail grow a gyrhaeddodd yn fuan wedyn frwydro’r tân, oedd yn dân poeth, tanbaid.”
Ychwanegodd fod y tân wedi neidio i gar y tu allan i’r uned a’u bod nhw wedi gorfod torri i mewn i’r ysgol ag offer hydrolig.
“Ar y pwynt hwnnw daeth i’r amlwg fod yna gleifion eraill,” meddai.
Ychwanegodd Steve Moore mai dyna’r digwyddiad mwyaf difrifol yr oedd wedi ei wynebu yn ei yrfa 28 mlynedd.
“Dyna’r mwyaf o bobol sydd wedi marw mewn tân yn fy mhrofiad i,” meddai.