Canser
Bydd mwy na pedwar ym mhob 10 o bobol Ynysoedd Prydain yn cael canser ar ryw bwynt yn eu bywydau, yn ôl arolwg gan elusen iechyd blaenllaw.

Mae ffigyrau newydd elusen Macmillan Cancer Support yn dangos fod 42% o bobol Ynysoedd Prydain yn marw o ganser – o’i gymharu â 35% tua degawd yn ôl.

Mae’r ymchwiliad, oedd yn dadansoddi data o 2008, yn dangos y bydd 64% o bobol sy’n dioddef o ganser yn marw o ganlyniad i’r salwch yn y pen draw.

“Mae’n frawychus bod cymaint o bobol bellach yn cael canser, a bod llawer iawn mwy o bobol â chanser heddiw nag oedd 10 mlynedd yn ôl,” meddai Ciaran Devane, prif weithredwr Macmillan Cancer Support.

Yn ôl yr elusen mae nifer y bobol sy’n byw â chanser wedi cynyddu o 1.5 miliwn yn 1998 i 2 filiwn yn 2008 – cynnydd o 35%.

Mae gwell triniaeth yn rhannol gyfrifol am hynny, wrth i bobol sy’n dioddef o ganser fyw yn hirach ar gyfartaledd.

Ond dywedodd yr elusen bod disgwyl i nifer y bobol ar Ynysoedd Prydain sydd â chanser ddyblu dros y degawd nesaf.

Fe fyddai hynny’n her fawr i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, meddai Ciaran Devane.

“Mae yna her anferth o’n blaenau ni ac mae angen i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol baratoi ar gyfer hynny,” meddai.