Rupert Murdoch a Rebekah Brooks
Mae News Corporation Rupert Murdoch wedi cyhoeddi na fydd yn parhau â’i gais i brynu’r cyfan o BSkyB.

Daw’r cyhoeddiad wedi i’r Prif Weinidog, David Cameron, gyhoeddi manylion ymchwiliad annibynnol i hacio ffonau symudol.

Galwodd pob un o’r prif bleidiau yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw ar y cwmni i roi’r gorau i’r cynllun i drosfeddiannu BSkyB.

Mae 39% o BSkyB, yn ogystal â’r Sun a’r Times, eisoes yn eiddo i News Corporation.

Dywedodd y cwmni ei fod wedi dod i’r amlwg y byddai yn “rhy anodd” bwrw ymlaen â’r cynllun yn yr hinsawdd bresennol.

“Rydyn ni’n croesawu’r newyddion,” meddai llefarydd ar ran Stryd Downing.

“Fe ddylai’r cwmni flaenoriaethu roi trefn ar ei hun yn gyntaf, fel y dywedodd y Prif Weinidog.”

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, fod y penderfyniad yn “fuddugoliaeth fawr i bobol o bob cwr o’r wlad sydd wedi ffieiddio at y datguddiadau ynglŷn â hacio ffonau symudol a methiant News International i gymryd cyfrifoldeb”.

Heddiw cyhoeddodd David Cameron y bydd yr Arglwydd Ustus  Leveson yn cadeirio ymchwiliad i hacio ffonau symudol.

Fe fydd gan ymchwiliad annibynnol i hacio ffonau symudol y grym i wysio perchnogion papurau newydd, newyddiadurwyr, yr heddlu a gwleidyddion, meddai.