Mae rhwydwaith darlledu cenedlaethol y BBC yn ffafrio Lloegr, yn ôl corff arolygu sy’n cadw llygad ar y gwasanaeth y mae’r gorfforaeth yn ei ddarparu ar gyfer gwylwyr.

Yn ôl yr adroddiad gan Gyngor Gwylwyr yr Alban mae yna “ogwydd” tuag at straeon o Loegr hyd yn oed ar wasanaethau sy’n darparu newyddion ar gyfer Ynysoedd Prydain i gyd.

Yn ôl yr arolwg mae gorsaf radio materion cyfoes a diwylliant y BBC, Radio 4, yn methu ag adlewyrchu barn unrhyw un y tu allan i dde ddwyrain Lloegr.

Mae’r arolwg yn ymdrin â’r Alban yn unig ond mae ganddo oblygiadau i Ogledd Iwerddon a Chymru hefyd.

Yn ôl yr arolwg mae “gwrandawyr Radio 4 yn gwerthfawrogi safon uchel y cynnwys, gan gynnwys rhaglenni oedd yn ymdrin â’r Alban”.

Serch hynny “roedd cwestiynau ynglŷn â faint o raglenni oedd yn ymdrin â’r Alban ac roedd yna bryder nad yw safbwynt yr orsaf yn cynrychioli gweddill Ynysoedd Prydain”.

Pan oedd y BBC yn ymdrin â materion oedd o bwys i wrandawyr yn yr Alban, er enghraifft camddefnydd alcohol neu drais sectyddol, doedd yr adroddiadau ddim yn mynd i ddigon o fanylder.

“Mae angen gwell balans rhwng adrodd ar faterion sy’n ymwneud â Lloegr yn unig a materion sy’n ymwneud â’r Alban yn unig,” meddai’r arolwg.

“Mae ymchwil gan Ymddiriedolaeth y BBC yn awgrymu fod gogwydd parhaol tuag at newyddion o Loegr.”

Bydd y BBC yn cyhoeddi ei arolwg blynyddol diweddaraf heddiw

Manylder is?

Mae’r SNP wedi dweud fod yr arolwg yn brawf pellach fod angen datganoli grymoedd darlledu i’r Alban.

“Ni ddylai cynulleidfaoedd yr Alban fod yn derbyn eu newyddion ar sail beth mae pobol yn Llundain yn meddwl sy’n bwysig,” meddai Pete Wishart o’r blaid.
“Bob blwyddyn rydyn ni’n dweud wrth y BBC nad ydyn nhw’n gwneud digon ac nad ydi’r gwylwyr yn cael chwarae teg.

“Fe ddylai’r BBC ddarparu newyddion o’r Alban mewn Manylder Uwch (HD). Ni fyddai unrhyw un fu’n gwylio’r BBC mewn Manylder Uwch yn yr Alban wedi gweld unrhyw ymdriniaeth o’r etholiad yma.”