David Cameron
Mae’r pwysau yn cynyddu ar Rupert Murdoch wrth i David Cameron ymuno ag ASau sy’n dweud y dylai roi’r gorau i’w gais am reolaeth o’r cwmni darlledu lloeren BSkyB.

Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad i ASau heddiw wedi i’r Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol gefnogi cynnig a fydd yn cael ei gyflwyno gan arweinydd Llafur, Ed Miliband, yn y Senedd heddiw.

Dywed y cynnig: “Mae er budd cyhoeddus fod Rupert Murdoch a News Corporation yn tynnu’n ôl eu cais am BSkyB.”

Roedd awgrym hefyd fod David Cameron, Nick Clegg ac Ed Miliband yn “agos at gytuno” ar natur ymchwiliad i’r honiadau o hacio ffonau symudol yn dilyn trafodaethau “cadarnhaol”.

Daeth y trafodaethau yn Stryd Downing ar ddiwedd diwrnod chwithig iawn i Scotland Yard. Mae ASau wedi beirniadu’r heddlu yn llym am fethu ac ymchwilio’n fwy trylwyr i’r mater ynghynt.

Cafodd y comisiynydd cynorthwyol, John Yates, wybod nad oedd ei dystiolaeth yn argyhoeddi wedi iddo feio’r News of the World am beidio â chydweithredu ag ymchwiliad yr heddlu.

Dywedodd cyn ddirprwy gomisiynydd Heddlu’r Met, Peter Clarke, oedd wedi goruchwylio’r ymchwiliad gwreiddiol yn 2006, wrth ASau na allai gyfiawnhau’r adnoddau fyddai eu hangen er mwyn darllen drwy’r 11,000 o dudalennau a gipiwyd yn ystod yr ymchwiliad.

Tystiolaeth

Mae Pwyllgor Dethol Diwylliant Tŷ’r Cyffredin wedi galw ar Rupert Murdoch, ei fab James, a prif weithredwr News International, Rebekah Brooks, i roi tystiolaeth mewn ymchwiliad ar wahân.

Mae’r cwmni wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu “cyd-weithredu” ond doedden nhw ddim yn gallu cadarnhau y byddai’r un o’r tri yn fodlon rhoi tystiolaeth.

Yn y cyfamser, mae papur newydd y Sun a’r Sunday Times wedi wfftio honiadau gan y cyn Brif Weinidog, Gordon Brown, sydd wedi eu cyhuddo o gael gafael ar wybodaeth breifat amdano ef a’i deulu.