Mae’r tair prif blaid yn San Steffan am gefnogi galwad ar i Rupert Murdoch roi’r gorau i’w gais am reolaeth o’r cwmni darlledu lloeren BSkyB.

Cytunodd y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol i gefnogi cynnig a fydd yn cael ei gyflwyno gan arweinydd Llafur, Ed Miliband, yn y Senedd yfory.

Dywed y cynnig: “Mae er budd cyhoeddus fod Rupert Murdoch a News Corporation yn tynnu’n ôl eu cais am BSkyB.”

Meddai Ed Miliband: “Dw i’n croesawu’r newydd fod y Llywodraeth yn dweud y bydd yn cefnogi’n cynnig ni. Mae hi’n bryd bellach i Rupert Murdoch gydnabod cryfder teimlad y cyhoedd ac ewyllys pob un o’r prif bleidiau.”

Cafodd cais News Corp i brynu’r 61% o gyfranddaliadau yn y cwmni darlledu lloeren sydd heb fod yn eiddo iddyn nhw eisoes ei gyfeirio at y Comisiwn Cystadleuaeth gan yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt ddoe.