Y cyn-brif weinidog Gordon Brown
Mae’r cyn brîf weinidog, Gordon Brown heddiw wedi cyhuddo News International o ddefnyddio gweithgarwch troseddol i amharu ar ei fywyd teuluol preifat.

Dywedodd hyn ar ôl iddo ddod i’r amlwg fod ‘blaggers’ wedi cael eu defnyddio i gael at ei ffeiliau personol gan gynnwys ei gyfrif banc.

Fe ddywedodd Gordon Brown fod ef a’i wraig “mewn dagrau” ar ôl i’r Sun ddweud wrthyn nhw eu bod am gyhoeddi’r stori ynghylch cystic fibrosis eu mab – ar ôl casglu gwybodaeth o’i ffeiliau meddygol.

“Mae’n ymddangos, yn gynnar yng nghyfnod y llywodraeth [pan oedd Brown yn ganghellor] bod y Sunday Times wedi cael at fy nghyfrif cymdeithas adeiladu a’m ffeiliau cyfreithiol,” meddai wrth BBC.

“Dw i wedi cael sioc, dw i wir wedi cael sioc i ffeindio bod hyn wedi digwydd oherwydd troseddwyr – troseddwyr oedd yn wybyddus iddyn nhw – oedd yn ymgymryd â’r gweithgarwch hwn, wedi’u cyflogi gan ymchwilwyr gyda’r Sunday Times.”

Fe ddywedodd ffynonellau News International neithiwr eu bod yn “gyfforddus” bod y straeon gafodd eu hadrodd yn y Sun am blant Gordon Brown wedi’u cael drwy ddulliau cyfreithlon.

Mewn datganiad, mae News International wedi dweud eu bod eisiau’r holl wybodaeth ynghlwm a’r honiadau iddyn nhw gael “ymchwilio’r mater ymhellach.”