Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos cwymp bychan mewn cyfradd chwyddiant yn ystod y mis diwethaf.

Yn ôl swyddfa’r Ystadegau Gwladol (ONS) roedd y gyfradd sy’n cael ei defnyddio amlaf gan y Llywodraeth, y Mynegai Prisiau Defnyddwyr, wedi gostwng 0.3% i lawr i 4.2%.

Er bod hyn yn dal yn sylweddol uwch na tharged Banc Lloegr o 2%, fe fydd yr arafu mewn chwyddiant yn sicr o leihau’r pwysau ar y Banc i godi cyfraddau llog.

Mae’r Mynegai Pris Manwerthu hefyd yn dangos gostyngiad o 0.2% mewn chwyddiant – i lawr i 5%.

Ar yr un pryd, mae’r ystadegau’n dangos bod prisiau bwyd a diod yn dal i godi, tra bod mwy o wasgu ar brisau pethau’n ymwneud â hamdden.