Rupert Murdoch a phrif weithredwr News International, Rebekah Brookes (Gwifren PA)
Mae Rupert Murdoch yn wynebu argyfwng cynyddol yn News International gyda honiadau bod newyddiadurwyr o un o’i bapurau wedi cael gafael ar gofnodion meddygol plentyn bach Gordon Brown.

Roedd eisoes adroddiadau bod y cyn-brif weinidog a’i wraig Sarah ymysg y rhai oedd yn cael eu targedu gan yr ymchwilydd preifat Glenn Mulcaire, a gafodd ei garcharu am hacio ffonau ar ran y News of the World.

Ond mae’r cyhuddiadau diweddaraf yn rhoi rhagor o bapurau News International yn y ffrâm, gyda honiadau bod y Sun wedi cael gafel ar gofnodion meddygol eu mab Fraser, a’r Sunday Times wedi cael gwybodaeth am gyfrif banc Gordon Brown pan oedd yn ganghellor.

“Mae’r teulu wedi cael sioc ynghylch graddau’r drwg weithredu a’r modd diegwyddor y cafwyd manylion personol. Mae’r mater yn nwylo’r heddlu,” meddai llefarydd ar ran Gordon Brown.

Bsky B

Yn sgil y datblygiadau diweddaraf, mae gobeithion Rupert Murdoch i ennill rheolaeth o BskyB yn ymddangos yn fwyfwy simsan.

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt gyfeirio cais dadleuol News Corporation – sef prif gwmni Rupert Murdoch – i’r Comisiwn Cystadleuaeth ddoe. Ac fe wnaeth y Prif Weinidog David Cameron hefyd bwyso ar y cwmni i fynd i’r afael â’r ‘llanast’ yn News International cyn meddwl am ehangu eu hymerodraeth.

Holi’r heddlu

Fe fydd Aelodau Seneddol yn holi penaethiaid heddlu am fethiant Scotland Yard i ddatgelu graddau’r sgandal mewn ymchwiliad cynharach.

Fe fydd Comisiynydd Cynorthwyol Heddlu Llundain, John Yates, yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Cartref yng nghanol honiadau iddo ddweud celwydd wrth y senedd.

Fe fydd yn cael ei holi hefyd pam y gwrthododd y cyfle i ailagor yr ymchwiliad heddlu yn 2009 pan ddaeth honiadau i’r amlwg fod yr hacio ffonau gan y News of the World yn digwydd ar raddfa ehangach nag oedd wedi cael ei gydnabod o’r blaen.