Cafodd o leiaf saith o blismyn eu hanafu mewn ymosodiadau gan dorfeydd yng ngorllewin Belfast neithwir.

Cafodd bomiau petrol a thaflegrau eraill, gan gynnwys cerrig a brics, eu taflu at yr heddlu wrth i helyntion barhau trwy’r nos.

Fe ddigwyddodd y gwrthdaro wrth wrth i deyrngarwyr unoliaethol baratoi at ddathliadau traddodiadol y deuddegfed o Orffennaf sy’n nodi Brwydr Boyne yn 1690.

Mae disgwyl  y bydd degau o filoedd o aelodau’r Urdd Oren ar y strydoedd heddiw – uchafbwynt y tymor gorymdeithio.

Roedd gwleidyddion ac arweinwyr eglwysig o’r ddwy ochr wedi apelio am ddiwrnod di-drais, yn enwedig yn wyneb yr anhrefn difrifol mewn ardaloedd teyrngarol o ddwyrain swydd Antrim dros y penwythnos.