Fe wnaeth y News of the World brynu gwybodaeth am aelodau o’r teulu brenhinol oddi wrth blismon a oedd yn gyfrifol am eu diogelu.

Dyma yw’r honiad diweddaraf i ymddangos yn sgandal y papur newydd a ddaeth i ben ddoe.

Eisoes, roedd gwybodaeth am negeseuon e-bost o fewn News International yn dangos bod manylion ffôn gwahanol bobl yn cael eu prynu gan ffynhonnell o fewn Scotland Yard.

Bellach, mae adroddiadau bod y negeseuon hyn yn cynnwys ceisiadau am daliadau o tua £1,000 am fanylion cyswllt y teulu brenhinol, eu ffrindiau a’u teulu.

Mae’r datblygiad diweddaraf wedi arwain at bryder am ddiogelwch y teulu brenhinol.

Mae’n peri anesmwythyd mawr i’r Cymro a fu’n gyn-bennaeth y gangen o Scotland Yard sy’n gyfrifol am amddiffyn y teulu brenhinol.

“Mae hyn yn horrific,” meddai Dai Davies o Gaernarfon.

Roedd amheuon cyn belled yn ôl â’r 1990au fod gwybodaeth yn cael ei ollwng, meddai, ond roedd ymchwiliad wedi methu â chael hyd i ddigon o wybodaeth i ddangos pwy oedd yn gyfrifol.