Mae hyder busnes yn y sector cynhyrchu wedi disgyn i’w lefel isaf ers dwy flynedd, gan awgrymu fod gan Brydain ffordd hir iawn i fynd er mwyn adfer yr economi.  

Dyna yw casgliad adroddiad ar Arferion Busnes gan gwmni cyfrifo’r BDO sy’n dangos ‘optimistiaeth’ yn y sector yn disgyn mwy na 26 pwynt.

Daw’r cwymp ar ôl diffyg galw cynyddol am nwyddau’r sector ym Mhrydain.

Mae’r arafu economaidd rhyngwladol hefyd wedi bod yn ddylanwad, gydag ysbryd busnes Ewrop gyfan wedi dioddef yng nghanol yr argyfwng dyledion cenedlaethol.  

Yn gynharach yr wythnos hon, cofnododd y sector gynhyrchu eu cynnydd mwyaf mewn cynhyrchu ers dros blwyddyn, gan ddringo’n ôl wedi tarfu’r holl wyliau cyhoeddus o gwmpas adeg y briodas frenhinol a’r Pasg.  

‘Sector hanfodol i’r economi’  

Dywedodd Peter Hemington, un o bartneriaid BDO, fod “y fath gwymp mewn hyder busnes yn bryder gwirioneddol, o ystyried fod y sector wedi rhoi’r hwb mwyaf i’r adferiad economaidd hyd yn hyn.”  

Yn ôl Peter Hemington, mae angen i’r Llywodraeth wneud mwy i hyrwyddo buddsoddiad sector breifat mewn rhwydweithiau mewnol, a chyflwyno cyfreithiau cyflogaeth fwy hyblyg.  

Roedd hefyd yn dweud bod angen cadw cyfraddau llog yn isel, wrth i’r adferiad economaidd yn 2011 barhau’n araf.  

“Mae gwendid y bunt, sy’n arfer gwneud allforio cynnyrch yn fwy cystadleuol, wedi methu a chreu’r enillion disgwyliedig,” meddai Peter Hemington.  

Cododd cynhyrchiant ym Mhrydain 1.8% rhwng mis Ebrill a Mai, o’i gymharu â chwymp o 1.6% y mis cynt.  

Ond mae economegwyr yn rhybuddio bod y sector “wedi ildio gêr yn ddiweddar,” gyda chynhyrchiant y tri mis diwethaf yn is na’r chwarter blaenorol.