Rupert Murdoch a Rebekah Brooks yn Llundain neithiwr
Mae disgwyl y bydd Prif Weithredwraig News International yn cael ei holi gan yr heddlu tros y sgandal hacio, wrth i’r Blaid Lafur geisio rhwystro’r cwmni rhag cael perchnogaeth lawn o’r cwmni teledu BskyB.

Fe ddaeth sylfaenydd y cwmni, Rupert Murdoch, i Lundain ddoe wrth i’r argyfwng gynyddu o amgylch papur y News of the World – fe gafodd gyfarfodydd a phryd o fwyd gyda’r Brif Weithredwraig, Rebekah Brooks.

Yn ôl News International fel tyst y bydd hi’n cael ei holi gan yr heddlu ond roedd un o bapurau eraill y cwmni, y Sunday Times, yn awgrymu y gallai deg o newyddiadurwyr a swyddogion wynebu carchar tros yr helynt.

Un o’r cwestiynau mawr yw pwy’n union a welodd adroddiad mewnol gan News International yn 2007, yn dangos bod taliadau wedi eu gwneud i swyddogion heddlu a bod hacio ffonau symudol yn arfer cyffredin.

Cynnig

Mae ymweliad Rupert Murdoch ei hun yn cael ei weld yn arwydd o ddifrifoldeb y sefyllfa wrth i’r Llywodraeth ystyried cais ei gwmni, News Corp, i brynu’r cyfan o BskyB.

Mae Llafur wedi gosod cynnig yn Nhŷ’r Cyffredin i geisio arafu’r broses ac mae disgwyl y gallai rhai Democratiaid Rhyddfrydol, gan gynnwys y gweinidog cabinet, Chris Huhne, eu cefnogi.

“Ar ôl gweld datgeliadau ofnadwy’r wythnos ddiwetha’, fydd y cyhoedd ddim yn derbyn y syniad y gallai’r corff sy’n gyfrifol am y gweithgareddau dychrynllyd yma gael yr hawl i feddiannu BskyB cyn diwedd yr ymchwiliad troseddol,” meddai’r arweinydd Llafur, Ed Miliband.

Yn ôl y gweinidog cabinet, Philip Hammond, mae’n rhaid i’r Llywodraeth ddilyn y rheolau cyfreithiol ac fe allai’r corff rheoleiddio, Ofcom, ymyrryd pe baen nhw eisiau gwneud hynny.