Mae prif swyddogion meddygol Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi dod at ei gilydd i geisio lleihau gordewdra mewn plant bach.

Mewn canllawiau a fydd yn cael eu cyhoeddi’r wythnos yma, fe fydd rhieni’n cael eu hannog i sicrhau bod plant o dan bump oed yn ymarfer eu cyrff am o leiaf deirawr y dydd.

Dylid mynd â babanod i nofio a chwarae ar fatiau ‘campfa babanod’ a dylai plant  bach gerdded am o leiaf 15 munud ar deithiau arferol i fannau fel feithrinfeydd ac ati.

Dyma’r tro cyntaf i blant o dan 5 oed gael eu targedu wrth i bryderon gynyddu am ordewdra plant.

Yn ôl ffigurau’r Gwasanaeth Iechyd, mae bron i chwarter y plant pedair a phump oed ym Mhrydain dros yn eu pwysau neu’n ordew, ac mae arbenigwyr yn darogan y gallai’r gyfran godi i 63% o blant erbyn 2050.