Cafodd amryw o blismyn eu hanafu mewn ymosodiadau gan deyrngarwyr unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon neithiwr.

Mae helyntion wedi bod mewn sawl rhan dalaith yn sgil anghydfod ynghylch chwifio baneri ar ddechrau tymor gorymdeithiau’r Urdd Oren.

Cafodd bws ei herwgipio a’i ddefnyddio i daro cerbyd heddlu a chafodd bomiau petrol a thaflegrau eraill eu taflu gan dorf o hyd at 100 o deyrngarwyr yn Ballyclare, Swydd Antrim. Fe wnaeth y plismyn ymateb gyda chanon dŵr a thanio bwledi plastig.

Cafodd dyn 27 oed ei arestio am ymddygiad terfysglyd yn nhref Magherafelt yn Swydd Derry, a chafodd amryw o gerbydau eu herwgipio hefyd yn ardaloedd Carrickfergus a Newtownabbey gerllaw.

Baneri

Mae teyrngarwyr yn Swydd Antrim wedi bod yn protestio ar ôl cyhuddo’r heddlu o dynnu baneri i lawr. A hithau’n dymor traddodiadol y gorymdeithiau, mae llawer o ardaloedd unoliaethol yn chwifio baneri.

Dywedodd Conall McDevitt, Aelod SDLP o Gynulliad Gogledd Iwerddon fod cynnydd sylweddol mewn chwifio baneri parafilwrol ledled Gogledd Iwerddon yr haf yma.

“Mae hyn wedi achosi gofid sylweddol mewn cymunedau o’r ddwy ochr,” meddai.

“All yr heddlu ddim datrys problem y baneri dros y tymor hir, ond rhaid iddo gael ei ddatrys yn wleidyddol gydag arweiniad go iawn o’r top.

“Mae’n resynus o beth fod Sinn Fein a’r DUP wedi methu â symud ymlaen dros y pum mlynedd ddiwethaf i sefydlu protocol synhwyrol a fyddai’n rheoli’r baneri sy’n cael eu hedfan, yn enwedig mewn sefyllfaoedd cynhennus.”