Y Prif Weinidog, David Cameron
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi awgrymu y gallai achub y blaen ar gynlluniau Alex Salmond i gynnal refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.

Mewn cyfweliad gyda chyfweliad y Spectator, dywed David Cameron y gallai llywodraeth Prydain fynd ati i gynnal y bleidlais ei hun os bydd yn barnu’r angen am hynny.

“Mae arna’ i eisiau trin y Prif Weinidog [Alex Salmond] a’i lywodraeth gyda pharch,” meddai David Cameron.

“Ond os bydd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn cael eu treulio’n ymrafael yn hytrach na llywodraethu, yna fe all amser ddod pryd y bydd yn rhaid inni ddweud: ‘Iawn, mae angen inni ateb y cwestiwn yma’n briodol’. Ond dw i ddim yn meddwl ein bod ni yno ar hyn o bryd.”

Roedd yr SNP wedi gwneud ymrwymiad yn eu maniffesto i gynnal refferendwm ar annibyniaeth yn ystod ail hanner tymor senedd yr Alban. Yn fuan wedi iddyn nhw ennill mwyafrif llwyr yn yr etholiad ym mis Mai, fe ddywedodd David Cameron ac Ysgrifennydd yr Alban, Michael Moore, na fydden nhw’n sefyll yn ffordd Alex Salmond i gynnal pleidlais o’r fath.

Mae sylwadau diweddaraf y Prif Weinidog wedi cael eu beirniadu yn yr Alban.

Meddai llefarydd ar ran Alex Salmond:

“Fe fyddai’n well i David Cameron ganolbwyntio ar yr argyfwng yn ei lywodraeth eu hun yn hytrach nag ymyrryd ym materion llywodraeth yr Alban.”