Cafodd bws ei herwgipio a bomiau petrol eu taflu at yr heddlu mewn helyntion yng Ngogledd Iwerddon neithiwr.

Fe fu’n rhaid i’r heddlu fynd i’r afael ag “anhrefn cyhoeddus difrifol” yn Ballyclare, Swydd Antrim.

Meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Iwerddon:

“Tua 11.30 neithiwr, roedd tua 70 i 100 o bobl yn taflu bomiau petrol a thaflegrau at yr heddlu. Cafodd canon dŵr ei ddefnyddio.

“Cafodd bws ei herwgipio, a chafodd amryw o blismyn eu hanafu pan wnaeth y bws wrthdaro â cherbyd heddlu.”

Er bod pethau wedi tawelu yn Ballyclare erbyn tua  2.30 y bore, cafodd nifer o gerbydau eu herwgipio yn ardaloedd cyfagos Carrickfergus a Newtonabbey hefyd.