Tudalen flaen rhifyn olaf y News of the World heddiw
Ar ôl 168 o flynyddoedd mae rhifyn olaf y News of the World ar werth yn y siopau heddiw.

Mae’r papur dadleuol yn ffarwelio â’i ddarllenwyr trwy ymddiheuro am y sgandal hacio ffonau a’i gorfododd i gau.

Mae’r perchennog, sef cadeirydd News Corporation, Rupert Murdoch, wedi hedfan yn unswydd i Lundain i fynd i’r afael â’r argyfwng sy’n bygwth ei holl ymerodraeth gyfryngol.

Fe gyrhaeddodd bencadlys y cwmni yn Wapping y bore yma mewn Range Rover coch yn darllen rhifyn olaf y papur a brynodd yn 1969.

Gyda’r pennawd ‘Thank you & goodbye’ ar ei dalen flaen, mae’r papur yn cydnabod wrth ei ddarllenwyr iddo golli ei ffordd.

Mewn ymddiheuriad ar dudalen 3, dywed y papur:

“Fe wnaethon ni ganmol safonau uchel, fe wnaethon ni fynnu safonau uchel, ond fel mae’n boenus inni sylweddoli bellach, am gyfnod o ychydig flynyddoedd hyd at 2006, fe wnaeth rhai a weithiodd inni, neu yn ein henw, syrthio’n gywilyddus o fyr o’r safonau rheini.

“Yn syml, fe wnaethon ni golli’n ffordd. Cafodd ffonau eu hacio, ac am hynny mae’n wir ddrwg gan y papur newydd hwn.

Yn y cyfamser, mae arweinydd Llafur, Ed Miliband, yn ceisio cynyddu’r pwysau ar y Llywodraeth yn sgil y sgandal.

Mae’r wrthblaid wedi galw am benodi barnwr ar unwaith i gadeirio’r ymchwiliad cyhoeddus i’r News of the World a gafodd ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog ddydd Gwener. Ac mae disgwyl i Ed Miliband fynnu pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos yma i atal News Corporation rhag ennill rheolaeth ar y darlledwr lloeren BSkyB.