Fe fydd dwywaith cymaint ag arfer o’r News of the World yn cael ei argraffu ar gyfer y  rhifyn olaf un yfory.

Gan ddisgwyl mwy o werthiant ar y papur 168 mlwydd oed nag y bu ers blynyddoedd, fe fydd pum miliwn o gopïau’n cael eu hargraffu heno.

Daw hyn ddyddiau’n unig ar ôl galwadau am foicot torfol o’r papur yn sgil y sgandal hacio ffonau cyn i’r perchnogion News International benderfynu ei gau.

Dywedodd dirprwy olygydd gwleidyddol y papur, Jamie Lyons, fod “cymysgedd o dristwch a balchder mawr” yn ystafell newyddion y papur.

“Dw i’n meddwl bod pawb yma’n falch o fod wedi gweithio i’r hyn a gredwn sydd y papur gorau yn y wlad ac i dîm o’r newyddiadurwyr diamheuol orau yn Fleet Street,” meddai.

“Nid dyma’r diwrnod i deimlo’n chwerw nac yn flin. Dw i’n meddwl ein bod ni i gyd yn canolbwyntio ar chwarae ein rhan wrth gwblhau rhifyn olaf y papur yr ydyn ni mor falch ohono.”

Mae disgwyl y bydd y papur yfory’n rhoi sylw i rai o’i straeon mwyaf nodedig dros y blynyddoedd, gan gynnwys ei ymgyrch dros ‘Gyfraith Sarah’ ac amryw o straeon ‘sting’ yn ymwneud â’r ‘sheikh ffug’, y gohebydd Mazher Mahmood.