Mae cyn-olygydd The News of The World fu’n gweithio i’r Prif Weinidog David Cameron, wedi ei arestio ac yn cael ei gwestiynu gan yr heddlu am arferion llwgr honedig.

Mi gafodd Andy Coulson ei arestion ynghyd â Clive Goodman y cyn-olygydd brenhinol ar y papur dydd Sul.

Cafodd Goodman garchar yn 2007, a’i arestio heddiw eto mewn cysylltiad â thaliadau honedig i’r heddlu.

Mae Coulson, sy’n gyn-bennaeth cyfathrebu yn 10 Stryd Downing, hefyd yn cael ei holi am yr arfer o hacio ffonau symudol yn ystod ei gyfnod yn golygu The News of the World – papur fydd yn dod i ben ddydd Sul yma.

Mae’r arrest yn arllwys fwy fyth o bwysau ar y Prif Weinidog David Cameron, roddodd swydd i Coulson er gwaetha’i gysylltiadau gyda’r sgandal.