Mae News International wedi cyhoeddi y bydd papur newydd y News of the World yn dod i ben.

Rhifyn dydd Sul nesa’ fydd yr ola’ yn hanes y papur tabloid sy’n gwerthu 2.66m o gopiau, mwy na’r un arall yng ngwledydd Prydain.

Mae disgwyl y bydd swyddi yn cael eu colli wrth i’r papur newydd 168 oed gau.

Mae’r penderfyniad yn dod yn sgil y sgandal tros weithgareddau rhai o newyddiadurwyr y papur yn torri i mewn i negeseuon ffôn pobol, gan gynnwys enwogion, teuluoedd milwyr marw, a’r ferch Milly Dowler a oedd wedi ei llofruddio.

Fe ddaeth y cyhoeddiad gan bennaeth y cwmni, James Murdoch, a ddywedodd fod y papur wedi methu yn ei genhadaeth o ddal pobol eraill i gyfri.

Ddoe, roedd y Prif Weinidog, David Cameron, wedi cyhoeddi y byddai ymchwiliad i’r helynt ac roedd rhai o hysbysebwyr mwya’r papur wedi atal eu busnes gydag ef.

“Ar ôl trafod â chyd-weithwyr rydw i wedi penderfynu bod angen gweithredu pendant. Dydd Sul yma fydd yn News of the World olaf un,” meddai James Murdoch, cadeirydd News International.

“Mae’r gwaith da y mae’r News of the World yn ei wneud wedi ei diwyno gan ymddygiad oedd yn anghywir.

“Os ydi’r honiadau diweddar yn wir roedd yn annynol a does ganddo ddim rhan i’w chwarae yn ein cwmni ni.

“Gwaith y News of the World yw dal pobol i gyfrif. Ond methodd yn ei achos ei hun.”

Ychwanegodd fod y News of the World a News International wedi mynnu, “yn anghywir”, mai un gohebydd oedd y drwg yn y caws.

“Rydyn ni bellach wedi rhoi tystiolaeth i’r heddlu yr ydw i’n credu sy’n profi nad oedd hynny’n wir ac fe fydd rhaid i’r rheini sydd wedi gweithredu mewn modd anghywir wynebu’r canlyniadau.”