Banc Lloegr
Mae Banc Lloegr wedi penderfynu cadw cyfraddau llog ar 0.5% heddiw er gwaethaf pwysau arnyn nhw i’w codi er mwyn gostwng chwyddiant.

Mae chwyddiant wedi cynyddu i 4.5% dros y misoedd diwethaf – mwy na dwbwl targed y Banc, sef 2% – wrth i brisiau bwyd a thanwydd gynyddu.

Ond pleidleisiodd Comisiwn Polisi Ariannol Banc Lloegr o blaid cadw cyfraddau llog ar 0.5% am y 28ain mis yn olynol.

Mae aelodau’r comisiwn yn pryderu am gryfder yr adferiad economaidd dros y misoedd diwethaf, ac mae arwyddion newydd y bydd y twf yn arafu unwaith eto.

Mae’r arolygon diweddaraf yn awgrymu fod twf yn y sectorau cynhyrchu a gwasanaethau wedi arafu ers chwarter cyntaf 2011.

Yn ogystal â hynny mae yna dystiolaeth newydd fod cwsmeriaid yn gwario llai o’u harian ar ôl i siopau cadwyn Habitat, TJ Hughes a Jane Norman fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Dyw’r rhan fwyaf o economegwyr ddim yn disgwyl i’r gyfradd llog godi nes y flwyddyn nesaf.

Mae hynny’n golygu fod costau byw yn debygol o gynyddu, a fydd yn arwain at drafferthion i deuluoedd wrth i’w hincwm fethu a dal i fyny â’r prisiau.

Fe fydd cwmni Scottish Power yn codi prisiau nwy a thrydan 19% a 10% fis nesaf ac mae disgwyl i gwmnïau tanwydd eraill ddilyn.

Dywedodd Consortiwm Mân-werthu Prydain fod prisiau bwyd wedi cynyddu 5.7% ym mis Mehefin – y cynnydd mwyaf mewn dwy flynedd a hanner.