Dylan Iorwerth
Dylan Iorwerth yn croesawu trafferthion y News of the World…

Does dim amheuaeth – dyma un o’r cyfnodau gwaetha’ erioed i ‘newyddiadurwyr’ y wasg felen a’r papurau capiau coch. Ar yr un pryd, mae’n gyfnod arbennig o dda i newyddiaduraeth go iawn.

Oni bai am bapur newydd y Guardian, ac un neu ddau arall yn ei sgil, fyddai’r wybodaeth ysgytiol am ddulliau’r News of the World ddim wedi dod i’r amlwg.

Roedd prif weinidogion a’r rhan fwya’ o wleidyddion wedi methu’n llwyr â galw Rupert Murdoch i gyfrif. Ar y gorau, roedd yr heddlu wedi helpu i gadw pethau’n dawel; ar y gwaetha’, o gofio’r honiadau am daliadau cildwrn, roedden nhw ynghanol y busnes.

Hyd yn oed rŵan, dim ond ar ôl iddi ddod yn amlwg bod y farn gyhoeddus yn troi yn erbyn papurau Murdoch y mae David Cameron wedi bod yn ddigon dewr i wneud safiad.

Mae eraill, fel AS y Rhondda, Chris Bryant, a Tom Watson o West Bromwich, yn haeddu clod am leisio barn yn llawer cynt ond fydden nhw, chwaith, ddim wedi gallu gwneud hynny heb ymgyrch newyddiadurol ddygn y Guardian tros gyfnod o bum mlynedd.

Cyfle i garthu’r stablau

Bellach, mae hwn yn gyfle i garthu’r stablau o ddifri’. Roedd llawer yn amau, neu hyd yn oed yn gwybod, am ddulliau gwaetha’r papurau adloniant; erbyn hyn, mae yna brawf ac angen i weithredu.

Does dim gwahaniaeth am wendid neu gryfder Comisiwn Cwynion y Wasg; mae’r ddadl am breifatrwydd enwogion a gwleidyddion yn amherthnasol; mae’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn groes i’r gyfraith ac yn llwgr.

O ran teuluoedd fel rhai Milly Dowler, merched Soham, meirwon Llundain a milwyr Afghanistan, mae’r gweithredu wedi bod yn gwbl anfoesol hefyd.

Mae tawelwch y papurau coch eraill yn awgrymu eu bod nhw’n rhan o’r un math o weithredu.

Yr heddlu at eu gyddfau

Yr hyn sy’n anodd ei ddeall ydi sut y gall Heddlu Llundain ymchwilio i hyn, gan ei bod yn ymddangos eu bod nhwthau at eu gyddfau yn y budreddi.

Mae’n ddigon posib hefyd y bydd News International yn gallu pwyntio bys at rhyw un swyddog ‘drwg’, fel y gwnaethon nhw efo gohebydd brenhinol y News of the World.

Doedd hynny ddim yn ddigon da yn 2007 a dydi o ddim yn ddigon da rŵan. Mae’n anodd credu nad oedd gan swyddogion uchel iawn yn y cwmni wybodaeth am yr hyn oedd yn digwydd.

Os nad oedden nhw’n gwybod, mi ddylen nhw fod, fel y mae’r Sun a’r News of the World mor hoff o ddweud wrth weinidogion llywodraeth. Ac, yn amlwg, roedd yna ddiwylliant yn y cwmni oedd yn gyfforddus efo ymddygiad o’r fath.

‘Ymddygiad troseddol difrifol’

Wrth ddedfrydu’r gohebydd Clive Goodman a’r ditectif preifat Glenn Mulcaire yn 2007, mi ddywedodd y barnwr hyn: “Roedd hyn yn ymddygiad troseddol difrifol na ddylen ni ddod i’w dderbyn.”

Mae angen ymchwiliad cyhoeddus i ymddygiad y News of the World a phapurau eraill, oes; mae angen ymchwiliad heddlu go iawn, oes, ac ymchwiliad i’r heddlu. Mae angen hefyd i wleidyddion ystyried o ddifri pam eu bod nhw’n rhy ofnus i wneud safiad yn erbyn Murdoch.

Dim ond lles a ddylai ddod o olchi’r dillad budron yma. Mi ddylai arwain at drafodaeth go iawn am ymddygiad yr heddlu a gwleidyddion ac, yn fwy na dim, am ryddid y wasg – a hynny ar dir uwch na rhincian dannedd am hawliau ychydig o selebs.

Mae angen gwarchod y gorau a chondemnio’r gwaetha’n llwyr.

Dyna pam, mewn ffordd ryfedd a thrist, y gall y rhain fod yn ddyddiau da.