Mae’n bosib fod ymchwilwyr ar ran y News of the World wedi hacio ffonau symudol perthnasau milwyr gafodd eu lladd yn Irac ac Afghanistan.

Dywedodd News International, cyhoeddwyr y papur newydd, y byddai yn “hollol warthus a dychrynllyd” pe bai yna unrhyw wirionedd y tu ôl i’r honiadau.

Daw’r honiad diweddaraf wrth i’r Prif Weinidog, David Cameron, alw am ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal.

Ddoe cyfaddefodd perchennog News International, Rupert Murdoch, fod hacio ffonau symudol yn y papur newydd yn “resynus ac annerbyniol”.

Ond mae wedi dweud y dylai prif weithredwr News International, Rebekah Brooks, aros yn ei swyddi, er ei bod hi wedi golygu’r papur newydd adeg yr hacio honedig.

Ymchwiliad

Mae cyfreithwyr MPH Solicitors, sydd yn cynrychioli rhai o berthnasau milwyr fu farw yn y rhyfeloedd, wedi galw ar yr heddlu i esbonio beth yw’r dystiolaeth sydd â nhw.

Wrth ymateb i’r honiadau diweddaraf, dywedodd llefarydd ar ran News International fod eu “papurau wedi ymgyrchu o blaid y fyddin ers blynyddoedd ac yn bwriadu parhau i wneud hynny”.

“Os oes unrhyw wirionedd i’r honiadau yma fe fyddai yn hollol warthus a dychrynllyd. Fe fyddwn ni yn cysylltu â’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn syth er mwyn ceisio gwirio beth sydd wedi digwydd”.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn fod yr ymchwiliad yn fater i Heddlu’r Met ac na fyddai yn briodol cynnig sylw wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo.