Mae’r bwlch rhwng cyflogau gweithwyr yn y sector gyhoeddus a’r sector breifat wedi lledu unwaith eto, yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw.
Ym mis Ebrill 2010 roedd gweithwyr yn y sector gyhoeddus yn cael eu talu 7.8% y fwy na gweithwyr yn y sector breifat, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Dim ond 5.3% yn ragor oedd gweithwyr yn y sector gyhoeddus yn ei gael yn 2007, gan awgrymu fod y bwlch wedi lledu dros y blynyddoedd diwethaf.
Cyhoeddwyd y ffigyrau ychydig ddyddiau wedi i gannoedd o filoedd o athrawon, darlithwyr, gweision sifil a gweithwyr eraill streicio yn sgil diwygiadau i’w pensiynau.
Sgiliau
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod cyfran uwch o’r swyddi yn y sector gyhoeddus yn rai oedd yn gofyn am sgiliau arbennig.
Roedd nifer o’r swyddi nad oedd angen sgiliau cystal wedi eu trosglwyddo i’r sector breifat dros y ddegawd ddiwethaf, medden nhw.
Hefyd, roedd oedran gweithwyr yn y sector gyhoeddus yn tueddu i fod yn hŷn, ac felly roedd eu cyflogau wedi cynyddu dros amser.
Yn 2010 roedd gan 38% o’r gweithwyr yn y sector gyhoeddus radd, o’i gymharu â 23% yn y sector breifat.
Roedd gweithwyr oedd â gradd yn y sector gyhoeddus yn ennill 5.7% yn llai na gweithwyr oedd â gradd yn y sector breifat.
Dyw’r ystadegau ddim yn cynnwys unrhyw dâl ychwanegol, gan gynnwys pensiynau, ceir cwmnïau, nag yswiriant iechyd.