Mae cwmni teledu Sky wedi gorfod ymddiheuro ar ôl awgrymu y dylai cwsmeriaid fethodd ag archebu gornest Haye v Klitschko fynd i’w wylio yn y dafarn.

Methodd system ‘talu i wylio’ Sky oherwydd ‘galw digynsail’ gan gefnogwyr oedd eisiau gwylio’r ornest focsio nos Sadwrn.

Roedd miliynau o gwsmeriaid wedi ceisio talu £14.95 er mwyn cael gwylio’r frwydr i benderfynu pencampwr pwysau trwm y byd.

Ymatebodd Sky i’r feirniadaeth ar wefan Twitter drwy awgrymu y dylai pobl “ddod o hyd i’ch tafarn agosaf” er mwyn cael gwylio’r ornest – gan ychwanegu dolen i wefan oedd yn rhestru tafarndai.

Roedd ymateb Sky wedi cythruddo gwylwyr hyd yn oed ymhellach, a nifer yn bygwth y byddent yn diddymu eu tanysgrifiad gyda’r cwmni teledu lloeren.

Un enw adnabyddus fu’n ymuno a’r feirniadaeth oedd y bocsiwr proffesiynol, Amir Khan. Cyhoeddodd ar Twitter: “Dywedodd gwasanaethau cwsmer Sky wrth bobl am fynd i’r dafarn agosaf. Beth am y bobl hynny sydd ddim yn yfed, Mwslemiaid a phlant dan oed?”

Postiodd Sky ymddiheuriad ar eu gwefan wedi’r ornest, gan roi’r bai am eu camgymeriad ar y niferoedd uchel fu’n ceisio talu i wylio’r darllediad.

Yn ôl rhai o gyfranwyr Twitter, doedd yr esgus ddim gwell nag esgus David Haye ei fod wedi colli’r ornest oherwydd anaf i fys ei droed.