Mochyn Daear
Mae gwyddonwyr blaenllaw wedi dod i’r casgliad y byddai difa moch daear yn lleihau nifer yr achosion o TB ychol mewn gwartheg.

Daw’r cyhoeddiad ôl i Lywodraeth y Cynulliad oedi cynlluniau i ddifa’r anifeiliaid gan ddweud fod angen rhagor o dystiolaeth wyddonol.

Mae disgwyl penderfyniad gan Lywodraeth San Steffan ynglŷn â dechrau difa moch daear yn Lloegr ddiwedd y mis.

Astudiodd prif wyddonydd Adran Amgylcheddol San Steffan, Defra, yr Athro Bob Watson, a’r Prif Filfeddyg Nigel Gibbens, gwerth degawd o dystiolaeth am ddifa moch daear.

Dywedodd y ddau fod y dystiolaeth yn profi fod difa “trefnus, cyson a cydamserol” yn arwain at leihad o tua 16% yn nifer y gyrroedd sydd wedi eu heffeithio gan TB ychol.

Roedd y dystiolaeth hefyd yn dangos nad oedd y mesurau presennol, gan gynnwys lladd gwartheg sydd wedi eu heintio, yn effeithiol.

Mae ffermwyr wedi bod yn galw am ddifa moch daear wrth i nifer yn achosion o TB ychol ar draws Prydain gynyddu.

Ond mae mudiadau diogelu anifeiliaid wedi dweud nad difa moch daear yw’r ffordd gorau o warchod yn erbyn yr afiechyd.

‘Camarwain’

Cyhoeddodd Gweinidog Amgylcheddol Llywodraeth Cymru, John Griffiths, fis diwethaf eu bod nhw’n bwriadu comisiynu panel arbenigol er mwyn cynnal ymchwiliad gwyddonol i’r dystiolaeth cyn bwrw ymlaen â’r cynllun.

Dywedodd y bydd yr adroddiad wedi ei gwblhau erbyn yr hydref.

Ymddiswyddodd cadeiryddion tri bwrdd rhanbarthol sy’n gyfrifol am geisio cael gwared â TB ychol yn sgil y penderfyniad gan honni fod Llywodraeth Cymru wedi eu “camarwain”.