Fe fydd gweinidogion Llywodraeth San Steffan yn cyhoeddu eu papur gwyn ar addysg uwch heddiw.

Mae disgwyl y bydd y cynlluniau yn cynnwys rhai o’r diwygiadau mwyaf radical i’r system brifysgolion ers degawdau.

Bydd y papur gwyn yn cynnwys mesurau i gynyddu dylanwad y sector breifat ar y sector a rhoi rhagor o rym yn nwylo myfyrwyr.

Mae hefyd yn cynnwys cynllun Llywodraeth San Steffan i gynnyddu ffioedd dysgu i £9,000 o fis Medi 2012 ymlaen.

Mae mwyafrif y prifysgolion yn Lloegr eisoes wedi cyhoeddi y byddwn nhw’n codi’r £9,000 llawn.

Roedd Prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Caerdydd, Casnewydd a Morgannwg wedi gobeithio codi’r un faint, ond dywedodd Corff Cyllido Addysg Uwch Cymru nad oedd eu cynlluniau yn ddigon da.

Mae addysg wedi ei ddatganoli yng Nghymru ac mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cadw at eu haddewid i dalu ffioedd dysgu myfyrwyr.

Bydd myfyrwyr o Gymru yn parhau i dalu £3,375 y flwyddyn, a Llywodraeth Cymru yn talu’r £5625 arall.

Diwygiadau eraill

Mae disgwyl y bydd y papur gwyn yn cynnwys mesur er mwyn annog prifysgolion i ostwng eu ffioedd dysgu.

Bydd prifysgolion a cholegau sy’n codi ffioedd isel yn cael gwybod eu bod nhw’n cael cynnyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio yno.

Ar yr un pryd mae disgwyl i’r papur gwyn gynnwys mesurau fydd yn cryfhau grym y Swyddfa Mynediad Teg.

Bydd y swyddfa yn gorucwhwilio prifysgolion gan sicrhau nad ydi myfyrwyr tlawd yn colli eu llefydd o ganlyniad i ffioedd dysgu uwch.

Fe fydd gan y Swyddfa Mynediad Teg rymoedd i godi dirwy ar yr rheini sy’n gwrthod cadw at eu cytundebau.

Mae hyfyd disgwyl i’r papur gwyn gynnwys cynlluniau a fydd yn gorfodi prifysgolion i ddarparu rhagor o wybodaeth am y rhagolygon gwaith ar ôl graddio, safon y dysgu a’r gwasanaethau y maen nhw’n ei gynnig, yn ogystal a barn myfyrwyr sydd yno’n barod.

Bydd rhaid i sefydliadau hefyd ddweud wrth myfyrwyr a ydyn nhw’n credu fod unrhyw bynciau Lefel-A penodol o fantais er mwyn gwneud cwrs yn y brifysgol.

Mae Undeb y Prifysgolion a Colegau wedi rhybuddio yn erbyn y diwygiadau gan ddweud na fydd rhoi rhagor o ddylanwad i’r sector breifat yn datrys problemau.

“Mae polisi’r Llywodraeth ar addysg bellach yn llanast llwyr ar ôl iddyn nhw wneud cawlach o bethau ar ffioedd dysgu,” meddai Sally Hunt, llefarydd ar ran yr undeb.

“Nid dod a pobol sy’n gobeithio gwneud elw i mewn ydi’r ateb i’r broblem o ddod o hyd i nawdd mewn addysg uwch.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Fusnes y bydd y papur gwyn yn “cynnal enw da byd-eang ein prifysgolion ac yn annog symud rhwng dosbarthiadau cymdeithasol”.