Jon Venables
Mae mam James Bulger wedi dweud fod ei lofrudd, Jon Venables, wedi colli ei gais i gael ei ryddhau ar barôl.

Jon Venables oedd un o’r bechgyn gipiodd James Bulger, oedd yn ddwy oed, o ganolfan siopa yn Bootle, Glannau Merswy, ym mis Chwefror 1993.

Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd ym mis Gorffennaf y llynedd am lawrlwytho a dosbarthu lluniau anweddus o blant.

Ysgrifennodd Denise Fergus, mam James Bulger, at Twitter gan ddweud: “Newyddion da newydd glywed y bydd venables DDIM yn cael ei ryddhau xxx”.

Roedd rhaid i’r Bwrdd Parôl benderfynu a oedd Jon Venables yn parhau i fod o berygl o’r cyhoedd.

Clywodd y Bwrdd Parôl gan dad James, Ralph, a ddisgrifiodd ei fywyd ers marwolaeth ei fab fel “hunllef ddyddiol”.

Wrth siarad y tu allan i Lys y Goron Lerpwl, dywedodd cyfreithiwr Ralph Bulger, Robin Makin, nad oedd “pethau wir wedi gwella ers y llofruddiaeth. Mae’n hunllef o hyd”.

Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd Parôl eu bod nhw wedi dod i benderfyniad ac wedi rhoi gwybod i deulu’r dioddefwr, yr ysgrifennydd gwladol, a’r carcharor.

Ond ychwanegodd nad oedden nhw’n cael cadarnhau beth oedd y penderfyniad.