Mae arolwg newydd yn awgrymu bod bron i ddwy ran o dair o weithwyr ddim yn gwneud defnydd o’u hawr ginio yn gyson.

Holodd cwmni recriwtio ar-lein staffbay.com 1,800 o bobol gan ddarganfod fod un ym mhob pump ddim yn cymryd hoe yn ystod y dydd.

Doedd yr un faint o bobol ddim yn cofio y tro diwethaf iddyn nhw beidio bwyta eu cinio wrth eu desgiau.

Dywedodd hanner y rheini a holwyd nad oedden nhw fel arfer yn gadael y gwaith ar amser, ac roedd dynion yn fwy tebygol o weithio oriau ychwanegol.

“Mae’r amser cinio yn dechrau mynd yn angof i rai pobol. Wrth i’r sector gyhoeddus a’r sector breifat ddechrau torri’n ôl mae’r pwysau ar weithwyr wedi cynyddu,” meddai Tony Wilmot, sylfaenydd staffbay.com.

“Mae gweithwyr yn teimlo’r angen i weithio oriau hirach a bwyta ‘al desko’ er mwyn dangos eu gwerth i’w cyflogwyr.”