Michael Gove
Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Michael Gove, wedi rhybuddio athrawon eu bod nhw mewn perygl o wneud drwg i enw da eu galwedigaeth os ydyn nhw’n streicio ddydd Iau.

Ychwanegodd y gallai rhieni gael eu galw i mewn i ddosbarthiadau dydd Iau er mwyn dysgu yn eu lle nhw. Mae ei sylwadau wedi cythruddo athrawon.

Bydd 750,000 o athrawon, darlithwyr, gweision sifil a gweithwyr eraill yn y sector gyhoeddus yn mynd ar streic ddydd Iau.

Mae undebau hefyd wedi bygwth rhagor o weithredu diwydiannol drwy gydol yr haf a’r hydref.

Dywedodd Michael Gove fod y Llywodraeth am wneud ei orau i gadw ysgolion ar agor er gwaethaf ymddygiad “ymosodgar” yr undebau.

“Os nad yw ysgolion ar agor ddydd Iau fe fydd yna anghyfleustra mawr i rieni, yn enwedig rhieni sengl, a fydd yn gorfod trefnu gofal ar gyfer eu plant ar fyr rybudd,” meddai wrth raglen Andrew Marr heddiw.

“Rydw i’n credu nad yw’n deg i bobol sy’n gweithio’n galed orfod dioddef y math yma o aflonyddwch, felly fe ddylai’r ysgolion aros ar agor.

“Efallai na fydd yr ysgolion yr un fath ag arfer ond mi ddylen nhw aros ar agor fel bod y plant yn gwneud rhywbeth o werth.

“Rydw i yn poeni y bydd gweithredu diwydiannol yn arwain at lai o barch at athrawon ac mae hynny’n drueni i bawb sydd eisiau system addysg well.”

‘Amhroffesiynol’

Dywedodd Mary Bousted, ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas yr Athrawon a Darlithwyr, na fyddai athrawon yn credu fod eu gwaith nhw yn werth yr ymdrech os yw’r newidiadau yn mynd rhagddynt.

“Mae’r llywodraeth yn ymddwyn mewn modd amhroffesiynol a thwp,” meddai wrth Sky News. “Dydyn nhw ddim wedi trafod yn iawn, dydyn nhw ddim wedi dweud pam fod angen y newidiadau.

“Rydw i’n gwybod y bydd y streic yn creu trafferth i rieni, ond os ydi’r llywodraeth yn dinistrio ein pensiynau, bydd yr alwedigaeth yma yn dioddef.

“Ni fydd athrawon da yn trafferthu dysgu am na fydd gwneud hynny werth yr ymdrech.”