Daethpwyd o hyd i gorff Ceidwadwr blaenllaw mewn toiled symudol yng ngŵyl Glastonbury y bore ma.

Roedd Christopher Shale yn gadeirydd Cymdeithas Geidwadol Gorllewin Swydd Rydychen, sy’n cynnwys etholaeth y Prif Weinidog.

Dywedodd David Cameron fod y newyddion yn “dorcalonnus” gan ddweud ei fod yn “gyfaill agos ac wedi bod yn gefnogaeth mawr dros y degawd diwethaf yng ngorllewin Swydd Rhydychen.”

Daw’r newyddion ychydig oriau ar ôl i Christopher Shale gael ei ddyfynnu yn beirniadu ei blaid ei hun mewn adroddiad a aeth i ddwylo papur newydd y Mail on Sunday .

Mae’n dweud yn yr adroddiad fod y Ceidwadwyr yn rhoi’r argraff eu bod nhw’n “ddigywilydd, rheibus, ac yn cymryd o hyd”.

Dywedodd un o drefnwyr Gŵyl Glastonbury, Micheal Eavis, fod y farwolaeth yn “hunanladdiad” ond mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio.

Roedd ffynonellau eraill yn awgrymu fod y dyn oedd yn 56 oed wedi dioddef trawiad ar y galon.