Cafodd dynes ei lladd heddiw pan wrthdarodd â char wrth geisio mynd i nôl eiddo o ganol traffordd.

Tarodd Ford Fiesta arian oedd yn teithio i’r de ar hyd yr M40 y ddynes rhwng cyffyrdd 12 a 11 tua 9am.

Dywedodd Heddlu Thames Valley eu bod nhw’n credu fod y ddynes yn deithiwr mewn car oedd wedi atal ar y llain galed wrth iddi redeg i nôl eiddo ar y draffordd.

Fe fu farw’r ddynes, oedd yn ei 60au, yn y fan a’r lle.

Bu’n rhaid cau dau o’r ffyrdd i’r de er mwyn rhoi cyfle i’r heddlu archwilio’r ffordd.

Mae’r heddlu yn galw ar unrhyw un a welodd y ddamwain i gysylltu â nhw.