Milly Dowler
Mae’r cyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus wedi dweud fod angen ail-ystyried sut y mae dioddefwyr yn cael eu trin yn y llys ar ôl cyfaddef fod achos Milly Dowler yn codi “cwestiynau pwysig”.

Daw sylwadau Keir Starmer QC ar ôl i un o benaethiaid yr heddlu feirniadu’r ffordd y cafodd teulu’r ferch ysgol eu trin gan y system gyfiawnder.

Cafodd Levi Bellfield ei garcharu am oes ddoe am lofruddio’r ferch 13 oed ond cwynodd teulu Milly Dowler fod yr achos llys wedi bod yn hunllef.

“Roedd yr achos llys yn brofiad erchyll,” meddai mam Milly Dowler, Sally, 51 oed.

“Cafodd ein teulu ni, sydd eisoes wedi dioddef cymaint, eu rhoi ar brawf yn yr un modd a Bellfield.

“Rydyn ni wedi colli ein hawli i breifatrwydd a gorfod eistedd drwy ddiwrnod ar ôl diwrnod er mwyn sicrhau fod y dyn yn cael ei ddedfrydu am lofruddiaeth erchyll.”

Dywedodd ei gŵr Bob, 59, fod y teulu “wedi talu pris rhy uchel er mwyn sicrhau’r ddedfryd yma”.

“Roedd y cwestiynau a ofynnwyd i fy ngwraig yn arbennig o gas.”

Adolygiad

“Mae’r achos llys wedi codi cwestiynau pwysig am y ffordd y mae dioddefwyr a llygaid-dystion yn cael eu trin yn y llysoedd,” meddai Keir Starmer.

“Mae angen atebion i’r cwestiynau rheini ac fe fyddwn ni’n cyfrannu i adolygiad gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder fydd yn ystyried beth sy’n cael ei wneud i gefnogi dioddefwyr.”

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Surrey, Mark Rowley, fod y ffordd yr oedd teulu Milly Dowler wedi eu trin yn “embaras”.

“Roedd profiad y teulu mor erchyll fel eu bod nhw bellach yn difaru cefnogi erlyn Bellfield,” meddai ym mhapur newydd y Times.

Roedd angen dod o hyd i system oedd yn caniatáu “profi llygaid-dystion heb eu dinistrio nhw yn llygaid y cyhoedd”.